Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2020
Amser:
09.30 -
09.50
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) Llyr Gruffydd AS Andrew RT Davies AS |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Nododd y Pwyllgor y byddai Llyr Gruffydd yn dirprwyo ar ran Rhun Ap Iorwerth ar gyfer Eitem 2. Fodd bynnag, byddai Rhun Ap Iorwerth yn bresennol ar gyfer Eitem 3.
2 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
2.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad yn unol â'i swyddogaethau a nodir o dan Reol Sefydlog 22.9 a pharagraff 8.1 o'r Weithdrefn ar gyfer Ymdrin â Chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Dai Lloyd AS, a chytunodd arno.
2.2 Ar ôl ystyried adroddiad y Comisiynydd Dros Dro, cytunodd y Pwyllgor fod Dai Lloyd AS wedi torri’r rheol a nodir ym mharagraff 10 o'r Cod Ymddygiad, wrth weithredu fel Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor nad oedd angen cymryd dim camau pellach.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion ei gyfarfod blaenorol.
3.2 Bu’r Pwyllgor hefyd yn trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(1).